SL(6)434 – Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 ("Rheoliadau 2017") yn nodi'r wybodaeth benodol sydd i'w chynnwys yn adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol sy'n ymwneud â'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a'r penawdau y dylid cynnwys y wybodaeth angenrheidiol oddi tanynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017 i ddiweddaru’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol a’r penawdau y dylid cynnwys y wybodaeth angenrheidiol oddi tanynt. Gwneir hyn i sicrhau aliniad â gofynion y Cod Ymarfer diwygiedig (Cod Rhan 8 diwygiedig) a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â pherfformiad gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ogystal â’r camau a gymerir i wella’r gwasanaethau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n egluro y bydd y diwygiadau a wneir i Reoliadau 2017 yn berthnasol i adroddiadau blynyddol sy’n cael eu llunio o flwyddyn ariannol 2024/25 ymlaen, gan gynnwys y flwyddyn ariannol honno.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 4 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn. Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol:

Rhoddir pŵer i wneud darpariaeth drosiannol o dan adran 196(2)(c) o
Ddeddf 2014.

Fodd bynnag, nid yw adran 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i henwi fel darpariaeth alluogi yn y rhaglith i’r Rheoliadau hyn.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:               Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod rheoliad 4 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, ond nad yw adran 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei henwi fel darpariaeth alluogi yn y rhaglith.

Hoffem, fodd bynnag, rannu’r sylwadau a ganlyn â’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

1)    Mae’r rheoliad penodol o fewn yr offeryn sy’n dibynnu ar adran 196(2)(c) yn rhoi budd i awdurdodau lleol. Rheoliad 4 yw hwn, nad yw ond yn ceisio darparu eglurder i awdurdodau lleol, o ran sut i gymhwyso’r Rheoliadau mewn amgylchiadau pan fônt yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024, yn ystod cyfnod pan fydd yr awdurdodau lleol yn dal i gyflwyno adroddiadau ar gyfer y flwyddyn adrodd flaenorol.

 

2)    Nid yw’r Llywodraeth yn credu bod hyn yn newid prif effaith yr offeryn, sy’n parhau i fod intra vires. Mae’r Llywodraeth yn dibynnu ar yr egwyddorion a nodir yn Inco Europe Ltd v First Choice Distribution [2000] 1 WLR 586 i gefnogi ei barn. At hynny, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud y rheoliad ac mae’n amlwg o ddarpariaeth weithredol yr O.S. y bwriadwyd i adran 196(2)(c) gael ei phennu yn y rhaglith, felly dyna pam y mae cyfeiriad ati yn y Memorandwm Esboniadol. Mae’r egwyddor a nodir yn achos Inco, felly, sef y gall y llysoedd ymyrryd i gywiro’r hyn sy’n amlwg yn wall drafftio, yn berthnasol i’r sefyllfa hon.

 

3)    Hyd yn oed os yw peidio ag enwi adran 196(2)(c) yn y rhaglith i’r Rheoliadau yn tanseilio effaith gyfreithiol rheoliad 4, o ystyried mai ei ddiben yn syml yw darparu eglurhad i awdurdodau lleol o ran y gofynion adrodd ar gyfer y cyfnod perthnasol fel yr amlinellir yn 1) uchod, byddai’n bosibl i awdurdodau lleol ddehongli’r Rheoliadau yn y fath fodd pa un bynnag.

Yng ngoleuni’r sylwadau hyn, nid yw’r Llywodraeth yn ystyried bod cyfiawnhad dros gymryd unrhyw gamau i ddiwygio’r Rheoliadau.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Ionawr 2024